Graham's Kitchen at Rhondda Golf Club
Does dim rhaid i chi fod yn aelod o Glwb Golff Cwm Rhondda ym Mhen-rhys i fwynhau'r bwyd hyfryd yn Graham's Kitchen.
Mae'r bwyty traddodiadol yma, sy'n cael ei redeg gan deulu, yn boblogaidd ymysg pobl leol, diolch i'w fwyd blasus sy'n cynnig gwerth am arian - ac mae'r lleoliad (ar ben Mynydd Pen-rhys) yn benigamp hefyd!
Mae gan Graham's olygfeydd ysgubol dros dde Cwm Rhondda a, gorau oll, mae'n cynnig bargen bendigedig - tri chwrs am un. Prynwch eich prif gwrs ac mae'ch cwrs cyntaf a'ch pwdin am ddim!
Dewiswch o blith clasuron fel byrgyrs, pysgod a sglodion, gamwn, stêc, pasteiod cartref a rhagor.
Mae yna fwydlen i blant a cherfdy poblogaidd ar ddydd Sul hefyd!
Ble: Penrhys, CF43 3PW
Math: Bwyty, Bar, Pwdinau