Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi mewn steil yn Rhondda Cynon Taf.
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi mewn steil yn Rhondda Cynon Taf. Dyma rai ffyrdd o fwynhau Hap-weithredoedd o Gymreictod.
Mwynhewch y danteithion melys yn Stondin Pice ar y Maen ym Marchnad Pontypridd.
Dewch i ddathlu Anthem Genedlaethol Cymru, a gyfansoddwyd ym Mhontypridd, wrth gerflun Evan a James James ym Mharc Coffa Ynysangharad.
Dewch i fwynhau cerddoriaeth a diwylliant yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd
Cymerwch seibiant yn Helo Coffi Gymreig ym Marchnad Aberdâr – mae wal yr oriel gelf yn anhygoel.
Bachwch anrheg Gymreig i chi eich hun ac yfed coffi blasus yn Yr Hen Lyfrgell yn y Porth
Dysgwch am ein hanes glofaol byd-enwog – gan yr union ddynion a oedd yn gweithio yn y pyllau glo fel bechgyn – ym Mhrofiad Pyllau Glo De Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Camwch i mewn i hanes a dysgu rhagor am ein treftadaeth gyfoethog a'n diwylliant gyda thaith gerdded hanesyddol.
Bachwch lyfr Cymraeg – i blant neu oedolion – yn Storyville Books yn y Porth ac ymgolli yn ein hiaith
Ymunwch â Chôr Meibion Treorci byd-enwog yn ei ymarferion.
Porwch drwy'r goreuon o blith crefftau, anrhegion a chynnyrch Cymreig Blas Ar Gymru ym Marchnad Aberdâr.
Efallai nad yw mor fawr â Chastell Caerffili, ond mwynhewch dir Castell Llantrisant ac ymweld â Neuadd y Dref.
Sipiwch gwrw Cymraeg......
neu seidr ..........
neu wisgi......
Mwynhewch ddanteithion cartref yn un o’n caffis “bracchis” traddodiadol a agorwyd gan fudwyr Eidalaidd i’r ardal yn ystod ffyniant y diwydiant glo. Mae caffi Princes and Café Royal ym Mhontypridd, Conti's yn Nhonypandy ar Servini's yn Aberdâr.